Rhif y ddeiseb: P-06-1311

Teitl y ddeiseb: Dylid cymhwyso buddiannau Cymru ac amddiffyn cyfraith ryngwladol yn erbyn marwolaeth pysgod oherwydd EDF-Hinkley yn Aber Afon Hafren

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i siarad â George Eustice yn San Steffan ar frys ynglŷn â’r ffaith bod rheoleiddwyr Lloegr yn diystyru mewn modd amlwg yr ‘egwyddor dim niwed’ mewn perthynas â statws Ardal Forol Warchodedig (MPA) Aber Afon Hafren. Mae a wnelo hyn â chaniatáu dympio gwaddodion a deunyddiau solet o Hinkley i'r Hafren a pharhau â'r drwydded ar gyfer system Hinkley ar gyfer oeri dŵr y môr sy'n peri i bysgod a physgod ifanc gael eu lladd ar raddfa enfawr, ynghyd â difrod ecolegol sylweddol.

Rhennir stiwardiaeth MPA Hafren rhwng awdurdodau yng Nghymru a Lloegr, felly mae angen i Lywodraeth Cymru bwyso ar reoleiddwyr Lloegr i gydymffurfio. Dynodwyd yr MPA ar y cyd yn 2018 o dan y Comisiwn OSPAR rhyngwladol. Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn atal niwed i bysgod a rhagor o ddympio yn sgil carthu cyfalaf ar ochr Cymru i’r Aber.

Dywedodd adroddiad Hinkley ar gyfer Prif Weinidog Cymru y dylai gorsaf bŵer Hinkley Point C ddefnyddio system oeri ar y tir.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn y cyngor arbenigol hwn a herio George Eustice i ddweud wrth reoleiddwyr Lloegr i gynnal statws MPA Aber Afon Hafren a chadw at y polisïau y cytunwyd arnynt ar y cyd ar ddiogelu a rheoli gweithgareddau yn yr MPA.

Dylai’r polisïau cyffredin hyn gynnwys a datblygu’r egwyddor ‘dim niwed’ a ddisgrifir yng Nghynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Byddai hyn yn cynnwys peidio â dympio gwastraff a rhoi diwedd ar fewnlif dŵr oeri Hinkley a fydd, fe amcangyfrifir, yn lladd hanner miliwn o bysgod bob dydd o’r 60 mlynedd y bydd yn weithredol.

 

 

 


1.        Cefndir

Mae EDF Energy yn datblygu gorsaf ynni niwclear yn Hinkley Point ger Bridgwater, Gwlad yr Haf. Yr orsaf hon – sef Hinkley C – fydd yr orsaf bŵer niwclear newydd gyntaf ers tro.

Yn yr ymateb i’r ddeiseb hon, mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS yn tynnu sylw at y ffaith bod aber afon Hafren yn safle o ddiddordebau ecolegol pwysig. Mae’n dweud ei fod yn cael ei gydnabod a’i warchod gan ystod o ddynodiadau cadwraeth natur gan gynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig aber afon Hafren, a bod y rheini fel a ganlyn:

yn safleoedd sy'n rhan annatod o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae amcanion cadwraeth y safle wedi'u gosod ar y cyd gan Natural England a Chyfoeth Naturiol Cymru. Lle bydd datblygiad yn y safle dynodedig yn digwydd yn Lloegr, byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn am gyngor gan y Corff Cadwraeth Natur statudol perthnasol. Dim ond os bydd effeithiau posib i nodweddion y safle yng Nghymru fyddai angen ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru.

1.1.a.   Carthu a gwaredu gwaddod

Fel rhan o adeiladu'r safle , mae EDF yn carthu gwaddod o wely'r môr yn yr aber i ddrilio chwe siafft fertigol ar gyfer y system dŵr oeri.

Gan fod yr ardal sy'n cael ei charthu o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig gydnabyddedig, rhaid rhoi unrhyw waddod a dynnir o'r ardal hon yn ôl yn yr un ardal er mwyn cynnal cydbwysedd naturiol gwaddod yn yr Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae hwn yn amod o'r drwydded garthu.

Dechreuodd y gwaith carthu am y tro cyntaf ym mis Medi 2018, lle cafodd deunydd wedi'i garthu ei ddyddodi yn Cardiff Grounds, sy’n safle gwaredu sefydledig ar gyfer deunyddiau morol a garthwyd oddi ar arfordir de Cymru. Roedd y cynigion yn ddadleuol, a rhoddodd Pwyllgor Deisebau’r Bumed Cynulliad ar y pryd ystyriaeth fanwl i ddeiseb ar y pwnc hwn.

Cyflwynwyd cynigion newydd yn 2020 ar gyfer ail gam carthu gwaddod. Unwaith eto roedd y cynigion hyn yn destun gwaith craffu gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd.

Ar y pryd, roedd EDF yn mynd ar drywydd tair trwydded forol ar gyfer gweithgarwch yn nyfroedd Cymru a Lloegr. Ceisiwyd dwy drwydded gan y Sefydliad Rheoli Morol yn Lloegr; un i gasglu samplau ar y gwaith carthu, a'r ail er mwyn cynnal y broses o garthu'r gwaddod.

At hynny, byddai angen i EDF gael trwydded forol oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru i waredu'r gwaddod yn nyfroedd Cymru (fel yn ystod cyfnod cyntaf carthu). Fodd bynnag, yn dilyn amrywiad ar drwydded forol EDF o'r Sefydliad Rheoli Morol, bydd y deunydd yn cael ei a ddyddodi ar safle gwaredu trwyddedig Portishead, a leolir yn Lloegr. Nid oes angen trwydded forol bellach gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynigion i waredu deunydd carthu o Hinkley yn nyfroedd Cymru.

1.1.b.   Apêl trwydded amgylcheddol – cyfarpar atal pysgod

Wrth ddatblygu trwydded Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol ar gyfer y safle, roedd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi nodi – ymhlith llawer o amodau eraill – y dylai'r elfen dŵr oeri gynnwys cyfarpar acwstig i atal pysgod. Diben hynny yw osgoi caethiwo a lladd miliynau o bysgod, o bosibl, bob blwyddyn. 

Fodd bynnag, mae perchnogion y safle, NNB Genco, wedi ceisio newid amodau’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a fyddai'n caniatáu iddo beidio â gosod y cyfryw gyfarpar. Dadleuodd na fyddai'r newid yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd y safleoedd dynodedig.

Fe wnaeth Asiantaeth yr Amgylchedd gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cais i amrywio’r drwydded, ond methu â dod i’r casgliad na fyddai dileu’r cyfarpar atal pysgod yn cael unrhyw effaith andwyol ar y cynefinoedd a’r rhywogaethau a warchodir yn aber afon Hafren.

Cynhaliwyd ymchwiliad cyhoeddus i ystyried yr apêl gan yr Arolygiaeth Gynllunio ym mis Mehefin 2021. Cynhyrchodd yr Arolygiaeth Gynllunio adroddiad yn cyflwyno argymhellion i'w penderfynu'n derfynol gan Ysgrifennydd Gwladol Defra.

Ar 2 Medi 2022 ysgrifennodd Defra at NNB Genco i ddweud bod ei apêl wedi'i gwrthod, a bod y gofyniad am y cyfarpar i atal pysgod i'w gadw.

Mae rhagor o ddata o reoliad Asiantaeth yr Amgylchedd o Hinkley Point ar wefan Llywodraeth y DU .

1.2.          Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn nodi polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu cynaliadwy yr ardal cynllunio morol, ac mewn cysylltiad â hynny. Mae dau fath o bolisi yng Nghynllun Morol Cenedlaethol Cymru; polisïau cyffredinol a pholisïau'r sector, sydd wedi'u cynllunio i gydweithio i gefnogi datblygu cynaliadwy.

Mae'r cynllun yn cynnwys polisïau sector ar 'garthu a gwaredu', a 'physgodfeydd'.

Nid yw’n atal niwed i bysgod na chael gwared ar waddod ymhellach yn nyfroedd Cymru, ond mae’n ceisio sicrhau bod gweithgareddau’n cael eu cynnal mewn ffordd gynaliadwy.

Ceir rhagor o fanylion am Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn y cyhoeddiad hwn gan Ymchwil y Senedd.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Cynullodd Llywodraeth Cymru Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Hinkleyer mwyn darparu asesiad annibynnol o oblygiadau gorsaf ynni niwclear Hinkley Point i Gymru. Cyflwynodd y grŵp adroddiad ym mis Mawrth 2021.

Bu'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad. Ysgrifennodd y Gweinidog at Lywodraeth y DU i dynnu sylw at “bwysigrwydd ystyried datblygiadau seilwaith mawr mewn meysydd trawsffiniol o safbwynt deddfwriaeth ddatganoledig.”

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Mae datblygiad Hinkley Point C wedi bod yn destun dwy ddeiseb, gyda’r ddwy’n cael eu hystyried yn ystod y Bumed Senedd:

§    P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

§    P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.